Cofnodion Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser

13 Mai 2014 

8 a.m. tan 9 a.m., Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

Sut rydym yn mesur ansawdd canlyniadau canser yng Nghymru.

 

Agenda

 

8 a.m. - Agorodd Julie Morgan AC, y Cadeirydd, y cyfarfod.  

 

8.10 a.m. - Cyflwyniad gan Dr Dyfed Huws, Cyfarwyddwr yr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar adroddiad diweddar yr Uned ynghylch nifer yr achosion o ganser, nifer y marwolaethau a'r nifer sy'n goroesi yng Nghymru.

 

8.20 a.m. - Cyflwyniad gan Gwenllian Griffiths, Pennaeth Materion Allanol Cymorth Canser Macmillan, ar yr Arolwg Profiad Cleifion Canser cyntaf yng Nghymru.

 

8.30 a.m. - Sgwrs gyda Dr Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol yn Felindre a Chyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Canser De Cymru, am yr adolygiad cymheiriaid o wasanaethau canser yng Nghymru.

 

8.40 a.m. - Trafodaeth.

 

Cyflwyniadau

 

Amlygodd cyflwyniad Dr Dyfed Huws bod y gyfradd o achosion canser 20% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, o'i gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac mai canser yr ysgyfaint achosodd bron i 22% o'r holl farwolaethau canser yn 2012.

Amlygodd hefyd bod cyfradd marwolaethau canser dros 50% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru o'i gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Rhoddodd Gwenllian Griffiths drosolwg o'r arolwg profiad cleifion canser cyntaf yng Nghymru, a ganfu fod 89% o'r rhai a holwyd o'r farn bod eu gofal cyffredinol naill ai'n ardderchog neu'n dda iawn. Dangosodd yr arolwg hefyd effaith hynod gadarnhaol cael nyrs glinigol arbenigol neu weithiwr allweddol ar brofiadau pobl sy'n byw gyda chanser.

Fodd bynnag, amlygwyd hefyd feysydd ar gyfer gwella am fod traean o bobl ddim yn cael enw gweithiwr allweddol a dim ond 22% oedd yn cael cynllun gofal ysgrifenedig; mae'r ddau beth hyn yn ymrwymiadau yng Nghynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru.

Amlinellodd Dr Tom Crosby sut y mae'r adolygiad cymheiriaid proffesiynol yn canolbwyntio ar berfformiad gweithwyr proffesiynol, gyda golwg ar wella ansawdd a chynnal safonau; dylid ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, comisiynwyr, rheolwyr y GIG, timau clinigol, y trydydd sector, cleifion, gofalwyr a'r cyhoedd i ddeall lle y mae gofal canser o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu a lle y mae angen gwelliannau i wasanaethau.

 

Mae'r cyflwyniadau ynghlwm.

 

Trafodaeth

 

Nifer yr achosion o ganser a marwolaethau - Roedd pryder bod nifer yr achosion a chyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn weddol agos at waelod y cyfartaledd Ewropeaidd.

 

 Dywedodd Dr Crosby pe gallem godi ein cyfraddau hyd at y cyfartaledd Ewropeaidd, byddem yn achub 300 o fywydau ychwanegol yng Nghymru bob blwyddyn, ac os byddai'n codi'n uwch na'r cyfartaledd byddem yn achub 600 bywyd.

 

Diagnosis cynnar ac anghydraddoldeb - Roedd pryder hefyd bod Cymru yn rhif 28 allan o 29 gwlad o ran cyfraddau goroesi pum mlynedd ar gyfer canser yr ysgyfaint, dim ond Bwlgaria sydd yn is. Hefyd, mae gormod o gleifion yn cael eu cyflwyno yn hwyr neu ddim o gwbl, felly rhaid i ddiagnosis cynnar ac oncoleg gofal sylfaenol fod yn brif flaenoriaeth.

 

Cafwyd trafodaeth hefyd ar sut y gallai'r system ymdopi ag atgyfeiriadau ychwanegol, a sut y mae gwasanaethau a mynediad yn waeth yn yr ardaloedd lle mae pobl yn cael eu cyflwyno yn hwyr, lle nad ydynt mor ymwybodol o negeseuon atal canser, a lle mae deiet gwael, gordewdra ac ysmygu. Mae angen hefyd ystyried amddifadedd gwledig a mynediad.

 

Ychwanegodd Gwenllian Griffiths bod yr arolwg o brofiadau cleifion canser yn dangos profiad ychydig yn waeth mewn ardaloedd difreintiedig ac ymhlith cleifion sydd â lefelau llythrennedd isel - nid yw gwybodaeth am ganser yn eu cyrraedd.

 

Canser prin - amlygwyd mai canser llai cyffredin yw bron i hanner yr holl achosion o ganser, ond nid oes cymaint o wybodaeth a chymorth ar gael i gleifion sydd â chanser prin. Er enghraifft, dim ond un MDT sydd ar gyfer canser yr ymennydd. Roedd barn bod angen gweithredu safonau ar gyfer canser mwy prin ledled y DU.

 

Dywedodd Dr Tom Crosby fod gennym wybodaeth yng Nghymru am ganser prin, ond bod diffyg cydlynu a chynllunio strategol.

 

9.10 a.m. - Cloi'r cyfarfod.